I ferch o Fon oedd yn myned i offrwm i Fynyw etc.
1 Gwawr ddyhuddiant y can-tref
2 Lleian aeth er llu o nef
3 Ac er Nonn calon ai cêl
4 Ac er Dewi eigr dawel
5 O fôn deg poed rhwydd rhegddi
6 i fynyw dir f'enaid i
7 I geissiaw blodeuaw'r blaid
8 maddeuaint am a ddywaid
9 Am ladd ei gwas du-las dig
10 Penydiwr cul poenedig,
11 [221a] O alanas [ ] gwawd ferw
12 yr aeth oer hiraeth ar herw
13 Greddf ffoes gruddiau phion
14 Gadewis fy newis fôn.
15 Crist Arglwydd boed rhwydd bid trai
16 gas a chymwynas Menai.
19 Y traeth mawr golud-fawr glod
20 treia gad fyned trwod
21 Y bychan draeth gaeth gerynt
22 gad i'm dyn gwynn hynn o hynt
23 darfu 'r gweddiau dirfawr
24 di gyffro fo Ertro fawr
25 Talwn fferm porth Abermaw
26 Ar donn drai er ei dwyn draw
27 Gydne gwin gad naw gwaneg
28 Dy synni i dir Dewi deg
29 A dyfn yw tonnau Dyfi
30 dwfr rhynn yn ei herbyn hi.
31 Rheidiol gad er dy anrhydedd
32 heol i fun hael o fedd
33 Ystwyth ymhwyth gad i'm honn
34 drais dew ddwfr dros dy ddwyfron
35 Aeron ferw hysson hoew-serch
36 gad trwod fyfyrxglod ferch
37 Teifi dwr tyfiad eur-wawn
38 gad ir dyn gadeirio dawn
39 Dirfing drwy'r afon derfyn
40 yr êl ac y del y dyn
41 Mam hirffawd mae ymhorphor
42 Os byw rhwng Mynyw a môr
43 Os hi a'm lladdawdd oes hîr
44 herw hylythr hwyr i'r holir
45 Maddeuid Mair neddair nawdd
46 i'm lleddf wylan a'm lladdawdd
47 Diau a mi a'i diaur
48 Minnau a'i maddau i'm aur.
dd [ ]